Yr hyn i’w ddisgwyl

Yr hyn i’w ddisgwyl

Caiff ein gwasanaethau cyfrinachol, nad ydynt yn barnu, eu creu ar sail holl anghenion amrywiol y rhai sy’n cymryd cyffuriau ac alcohol a’u teulu a’u ffrindiau ar draws Caerdydd a’r Fro.

Yma gallwch gael gwybod mwy am yr hyn i’w ddisgwyl pan fyddwch yn cysylltu a sut yr ydym yn gweithio gyda chi.

Gallwch gysylltu â ni (link to Contact us page) yn uniongyrchol, trwy ffonio, anfon neges e-bost neu alw heibio un o’n lleoliadau i siarad gyda gweithiwr defnyddio sylweddau.

Byddwch yn cael cyngor ac arweiniad na fydd yn eich barnu am unrhyw agwedd ar ddefnyddio sylweddau ar eich cyfer chi neu rywun arall.

Rydym yn cynnal boreau coffi rheolaidd a gweithgareddau eraill trwy gydol yr wythnos hefyd, lle y gallwch alw heibio ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Gallwch gael eich atgyfeirio gan weithiwr proffesiynol hefyd fel meddyg teulu, swyddog cymorth tai neu weithiwr cymdeithasol.

Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.

Byddwn yn holi pam yr ydych chi’n cysylltu, gan archwilio’r dewisiadau perthnasol. Os ydych chi’n chwilio am gymorth i chi, gan ddibynnu ar yr amser pan fyddwch yn ffonio neu’n galw heibio, estynnir gwahoddiad i chi gael asesiad ar yr adeg honno neu ar amser neu ddyddiad yn y dyfodol.

Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi hefyd am wasanaethau cymorth yn yr ardal leol a allai fod o gymorth i chi.

[Os byddwch yn ffonio i siarad gyda’r gweithiwr a neilltuwyd i chi, gallwn eich cysylltu neu roi rhif uniongyrchol i chi ar eu cyfer.]

Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.

Mae ein holl ofal a gwasanaethau yn canolbwyntio arnoch chi ac yn cael eu cynllunio mewn partneriaeth â chi.

Felly, byddwch yn cyfarfod gydag un o’n gweithwyr cymorth a fydd yn trafod eich anghenion, eich nodau a’ch dewisiadau unigryw chi gyda chi.

Byddwch yn trafod yr hanes o ran camddefnyddio sylweddau gyda’ch gilydd, sut yw’r defnydd ar hyn o bryd a’r hyn yr ydych yn dymuno ei gyflawni, yna byddwch yn datblygu cynllun wedi’i deilwra y byddwn yn ei adolygu gyda chi yn rheolaidd.

Rydym yn dymuno sicrhau eich bod mor ddiogel ag y bo modd, ac os felly, os yw hynny’n berthnasol, byddwn yn cynnig cyngor ac arweiniad i chi hefyd a fydd yn ceisio lleihau risgiau.

Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost atom, info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.

Bydd y cymorth penodol y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich anghenion a’ch nodau.

Mae’n debygol y byddant yn cyfuno amrediad o weithgareddau, gan gynnwys cwnsela unigol; cymorth unigol gan un o’n gweithwyr camddefnyddio sylweddau arbenigol; grwpiau cymorth amrywiol a gweithgareddau cymdeithasol anffurfiol.

Byddwch yn cyfarfod ein tîm cymorth cymheiriaid hefyd, y bydd ganddynt eu profiad eu hunain o rai o’r problemau a’r heriau yr ydych yn eu hwynebu.

Trwy gydol eich rhaglen, byddwn yn adolygu eich cynllun gyda chi yn rheolaidd, ac yn ei ddiweddaru ar sail eich cynnydd ac unrhyw amgylchiadau sy’n newid.

Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.

Mae ein tîm yn dosturiol ac nid yw’n barnu, ac mae eich rhaglen yn bersonol i chi ac mae’n gyfrinachol.

Mae pawb yn gweithio i ddarparu lle diogel a chefnogol i chi lle y gallwch drafod eich meddyliau a’ch profiadau. Rydym yn deall bod nifer o’n cleientiaid wedi cael profiadau trawmatig y gallent fod wedi arwain at eu defnydd o sylweddau.

Maent wedi cael hyfforddiant llawn i’ch helpu i roi sylw i’r rhain hefyd, ac maent yn fedrus ac yn sensitif wrth eich cynorthwyo ac wrth adnabod effeithiau profiadau o’r fath, megis gofid ac iselder, er enghraifft.

  • Er bod ein dull gweithredu yn amrywio yn unol ag anghenion a phrofiadau unigryw yr unigolyn, rydym wastad yn gweithio yn unol ag egwyddorion penodol:

    Rydym yn rhoi blaenoriaeth i’ch diogelwch corfforol ac emosiynol bob amser.

  • Rydym yn pennu terfynau clir a chyfathrebu cyson er mwyn meithrin ymddiriedaeth rhwng cleientiaid a darparwyr gwasanaeth.
  • Rydym yn cynnig dewisiadau a rheolaeth i chi dros eich cysylltiadau, gan barchu eich penderfyniadau.
  • Rydym yn eich cynnwys ym mhob penderfyniad ac yn gweithio gyda chi i ddatblygu eich cynlluniau triniaeth.
  • Rydym yn datblygu sgiliau ymdopi a chryfderau sy’n bodoli eisoes.
  • Rydym yn parchu cefndir diwylliannol pawb a byddwn yn addasu gwasanaethau i fodloni eich anghenion penodol.

Rydym yn deall y bydd materion alcohol a chyffuriau yn effeithio ar rannau eraill o fywyd pobl, felly rydym yn cydweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol a sectorau eraill, megis meddygon teulu a chlinigwyr eraill, darparwyr tai a gwasanaethau cymdeithasol.

Felly os bydd angen unrhyw fathau eraill o gymorth arnoch, byddwn yn nodi hyn gyda chi a gallwn eich helpu i’w gael.

Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.

banner image

Get in Touch

It’s easy for you to find and get whatever help, information and advice you need, wherever you are in Cardiff and the Vale.

Appointments are available to book online or contact us direct with any questions you may have