Rhaglenni ymwybyddiaeth ar gyfer pobl ifanc mewn lleoliadau addysgol a chymunedol
Rhaglenni ymwybyddiaeth ar gyfer pobl ifanc mewn lleoliadau addysgol a chymunedol
Mae ein cyrsiau yn amrywio o gyrsiau er mwyn codi ymwybyddiaeth o alcohol a chyffuriau, i sut i helpu rhywun i leihau eu risgiau pan fyddant yn defnyddio cyffuriau neu alcohol (lleihau niwed) i iechyd rhywiol.
Rydym yn darparu hyfforddiant arbenigol, i’n partneriaid mewn meysydd megis tai, iechyd, addysg a chyfiawnder troseddol fel arfer, a gallwn ddarparu hyfforddiant yn eich safle chi neu yn ein safle ni.
Cysylltwch â (insert details) i drafod eich anghenion hyfforddiant.
Rydym yn dechrau cynnal cyrsiau agored (link to calendar) hefyd, y gall pobl ymuno â nhw am ddim.

Nid yw rhai pobl yn dymuno rhoi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ond gallant leihau eu risgiau pan fyddant yn defnyddio.
Nid yn unig y mae ein tîm lleihau niwed arbenigol yn darparu’r cymorth hwn, ond mae hefyd yn cynnig cyngor a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol unigol a sefydliadau ynghylch sut i nodi risgiau a’u lleihau.
Mae ein cyrsiau lleihau niwed yn cynnwys hyfforddiant Naloxone; ymwybyddiaeth o ddefnyddio sylweddau; darparu nodwyddau a chwistrellau; profion syml am Hepatitis B, Hepatitis C a HIV; iechyd rhywiol a chael rhyw dan ddylanwad cyffuriau (cemryw).
Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.
Mae ein tîm arbenigol yn darparu gweithdai gyda grwpiau o bobl ifanc mewn ysgolion a cholegau ac mewn lleoliadau ieuenctid cymunedol eraill hefyd.
Darparir y rhain i gyd am ddim a chânt eu teilwra ar gyfer grwpiau mawr, hyd at grwpiau blwyddyn cyfan, neu grwpiau llai o faint a nodir, ac mae modd eu darparu y tu allan i oriau swyddfa yn ôl y gofyn.
Rydym yn darparu ymgyrchoedd addysg ac ymwybyddiaeth hefyd ac yn ymuno â digwyddiadau cymunedol fel rhan o hyn.
Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.
HOW WE CAN HELP
We support people to minimise the risks they take when using drugs or alcohol; enable those who want to move or continue to stay away from their use; and educate around drug and alcohol use. We have teams of professionals with particular specialisms and peers whose experience of drug and alcohol use makes them very well-placed to provide support.
For support please contact us direct or make an appointment through our booking system