Lleihau eich risgiau
Lleihau eich risgiau
Gallwn eich helpu i leihau eich risgiau pan fyddwch yn defnyddio cyffuriau ac alcohol gyda chymorth un-i-un, heb farnu.
Os nad ydych yn dymuno rhoi’r gorau i chwistrellu cyffuriau, gallwch leihau eich risgiau o hyd pan fyddwch yn gwneud hynny trwy ddefnyddio offer di-haint bob tro.
Rydym yn darparu nodwyddau a chwistrellau glân a’r holl offer sy’n ofynnol er mwyn chwistrellu mewn ffordd fwy diogel. Rydym yn fodlon derbyn offer a ddefnyddiwyd yn ôl hefyd.
Chwiliwch am fanylion eich cyfleuster cyfnewid nodwyddau agosaf yma. (need)
Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.
Rydym yn darparu Naloxone, sy’n dadwneud effeithiau gorddos heroin neu opioidau eraill yn gyflym. Gall adfer anadlu rhywun i’r hyn sy’n arferol yn gyflym pan fydd wedi arafu neu stopio oherwydd opioid, megis heroin neu feddyginiaeth presgripsiwn penodol.
Mae ein tîm o Gymheiriaid Lleihau Niwed yn weithgar iawn o gwmpas canol dinas Caerdydd. Mae logos ‘Ask me about Naloxone’ ar eu hwdis a gall unrhyw un ofyn iddynt siarad am Naloxone a darparu pecyn yn rhad ac am ddim.
Rydym yn darparu hyfforddiant am ddim ynghylch sut i roi Naloxone hefyd.
Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth neu i holi am hyfforddiant.
Rydym yn darparu prawf syml am Hepatitis B, Hepatitis C a HIV a beth bynnag fo’r canlyniad, gallwn eich cynorthwyo trwy’r broses a chynnig cyngor i chi am unrhyw gamau nesaf.
Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.
How we can help
We support people to minimise the risks they take when using drugs or alcohol; enable those who want to move or continue to stay away from their use; and educate around drug and alcohol use. We have teams of professionals with particular specialisms and peers whose experience of drug and alcohol use makes them very well-placed to provide support.
For support please contact us direct or make an appointment through our booking system.