Working to break down barriers to people engaging with services and treatment.

Working to break down barriers to people engaging with services and treatment.

Mae ein timau proffesiynol a chymheiriaid yn cynorthwyo pobl sydd â phroblemau alcohol a chyffuriau allan yn y gymuned, gan gynnwys y rhai sydd wedi mabwysiadu ‘ffordd o fyw ar y stryd’, gan gynnwys y rhai sy’n cysgu allan, sy’n cardota, sy’n gweithio fel gweithwyr rhyw ar y stryd ac sy’n yfed yn y stryd.

Rydym yn cynnig cyngor ynghylch sut y gall pobl leihau eu risgiau pan fyddant yn cymryd cyffuriau neu alcohol, a’n nod yw eu helpu i ymgysylltu â gwasanaethau priodol a fydd yn eu helpu i symud i ffordd o fyw mwy sefydlog.

Yng Nghaerdydd, rydym yn gweithio fel rhan o Dîm Aml-ddisgyblaethol Digartrefedd y cyngor, sy’n cynnwys gwasanaethau allgymorth. Yn ogystal, rydym yn cydweithio’n agos â thîm cymorth defnyddio sylweddau clinigol arbenigol GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol.

Gweler y wybodaeth yn y gwymplen isod neu ffoniwch 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com i ofyn am ein Gwasanaethau Cymunedol.

Rydym yn darparu nodwyddau a chwistrellau di-haint a’r holl offer sy’n ofynnol er mwyn chwistrellu mewn ffordd fwy diogel.

Rydym yn fodlon derbyn offer a ddefnyddiwyd yn ôl hefyd.

Chwiliwch am fanylion eich cyfleuster cyfnewid nodwyddau agosaf yma.

Rydym yn darparu ac yn rhoi Naloxone, sy’n dadwneud effeithiau gorddos opioidau yn gyflym ac sy’n gallu adfer anadlu rhywun i’r hyn sy’n arferol pan fydd wedi arafu neu stopio oherwydd opioid, megis heroin neu feddyginiaeth presgripsiwn penodol.

Mae ein tîm o Gymheiriaid Lleihau Niwed yn weithgar iawn o gwmpas canol dinas Caerdydd. Mae logos ‘Ask me about Naloxone’ ar eu hwdis a gall unrhyw un ofyn iddynt siarad am Naloxone a darparu pecyn yn rhad ac am ddim.

Rydym yn darparu hyfforddiant am ddim ynghylch sut i roi Naloxone hefyd.

Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth neu i holi am hyfforddiant.

Rydym yn darparu profion syml am Hepatitis B, Hepatitis C a HIV mewn lleoliadau cymunedol amrywiol. Os bydd rhywun yn cael canlyniad positif, byddwn yn eu cynorthwyo i sicrhau triniaeth.

Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.

banner image

HOW WE CAN HELP

We support people to minimise the risks they take when using drugs or alcohol; enable those who want to move or continue to stay away from their use; and educate around drug and alcohol use. We have teams of professionals with particular specialisms and peers whose experience of drug and alcohol use makes them very well-placed to provide support.

For support please contact us direct or make an appointment through our booking system