Ei gwneud yn hawdd i chi gael help gyda chyffuriau ac alcohol

Rydym yn bodoli i sicrhau bod pob unigolyn yn gallu cael y cymorth, y wybodaeth a’r cyngor y mae ei angen arnynt ynghylch eu defnydd nhw o gyffuriau ac alcohol, neu ddefnydd rhywun arall o gyffuriau ac alcohol. Rydym yn cynorthwyo pob grŵp oedran a gall pobl gysylltu â ni yn uniongyrchol neu trwy atgyfeiriad proffesiynol.

Rydym yn galw hwn yn ddull gweithredu ‘Dim drws anghywir’: sut bynnag a phryd bynnag y bydd pobl yn cysylltu am unrhyw bryderon ynghylch cyffuriau ac alcohol, byddwn yn gwybod sut i helpu.

Pwy yw GCACAF?

Pwy yw GCACAF?

Mae Cynghrair GCACAF yn dwyn ynghyd sgiliau, profiad ac arbenigedd tri sefydliad camddefnyddio sylweddau yng Nghymru – Barod, Kaleidoscope a Recovery Cymru – a Bwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a’r Fro.

Ffurfiwyd GCACAF er mwyn darparu gwasanaethau arloesol ar sail anghenion y bobl yng Nghaerdydd a’r Fro.

Mae’r trefniant unigryw hwn ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru yn caniatáu lle i leisiau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau i gael eu clywed ac i’w hanghenion gael eu bodloni yn y ffyrdd sy’n gweithio iddyn nhw. Yn y ffordd honno, gallwn barhau i ddatblygu gwasanaethau ymhellach yn ôl y gofyn.

Cydgynhyrchu gwasanaethau

Cydgynhyrchu gwasanaethau

Credwn bod y gwasanaethau gorau yn cael eu cynhyrchu gyda’r bobl y mae angen y gwasanaethau hyn arnynt, ac y mae ganddynt brofiad uniongyrchol o’r hyn sy’n gweithio’n dda.

Dyma sut yr ydym yn datblygu ein gwasanaethau a pham bod gennym dîm cymorth gan gymheiriaid cadarn a phroffesiynol sy’n rhan bwysig o’n dull gweithredu.

modal image

Sut ydym yn gweithio gyda chi

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn eich helpu gyda chyngor, gwybodaeth a chymorth.
Dyma’r hyn i’w ddisgwyl pan fyddwch yn cysylltu…

modal image

I weithwyr proffesiynol sy’n atgyfeirio

Os oes angen cymorth cyffuriau neu alcohol ar eich cleientiaid neu’ch cleifion yng Nghaerdydd a’r Fro, gallant droi atom ni yn uniongyrchol neu gallwch chi eu hatgyfeirio.

modal image

Ymunwch â ni!

Os hoffech ymuno â thîm arloesol ac ymroddedig, hoffem glywed gennych. Mae ein timau arbenigol yn darparu gwasanaethau sy’n datblygu yn barhaus, wedi’u teilwra i anghenion go iawn pobl ac maent yn recriwtio nawr.

banner image

CYSYLLTWCH A NI

Os hoffech gael mynediad i CAVDAS, gallwch wneud hynny mewn sawl ffordd. Gallwch wneud apwyntiad ar-lein neu gallwch ffonio ein gweithwyr ymroddedig ar 0300 3007000 i drafod eich anghenion.