HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd ac rydym yn addo casglu, prosesu a rhannu eich data mewn ffordd ddiogel. Byddwn yn diogelu cyfrinachedd, cywirdeb ac argaeledd y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn dweud wrthych sut yr ydym yn gwneud hyn a beth yw eich hawliau. Caiff unrhyw ddata personol a brosesir yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd ei reoli gennym ni, Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a’r Fro (GCACAF), fel y Rheolydd Data.
Cyflwyniad
Mae gan bawb hawliau mewn perthynas â’r ffordd y caiff eu gwybodaeth bersonol ei thrin. Yn ystod ein gweithgareddau, byddwn yn casglu, yn storio ac yn prosesu gwybodaeth bersonol am unigolion ac rydym yn cydnabod y bydd trin y data hwn mewn ffordd gywir a chyfreithlon yn cynnal hyder yn y sefydliad.
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn rhoi esboniad manwl o’r mathau o ddata personol y byddwn yn eu casglu amdanoch efallai pan fyddwch yn rhyngweithio gyda ni. Mae’n esbonio hefyd sut y byddwn yn storio ac yn trin y data hwnnw ac yn ei gadw yn ddiogel.
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn hefyd yn nodi’r sylfaen ar gyfer ein gwaith o brosesu unrhyw wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu gennych chi neu y byddwch yn ei darparu i ni. Darllenwch y canlynol yn ofalus er mwyn deall ein safbwyntiau a’n harferion ynghylch eich gwybodaeth bersonol a sut y byddwn yn ei thrin.
Er mwyn sicrhau symlrwydd trwy gydol yr hysbysiad hwn, mae ‘ni’ yn golygu Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a’r Fro (GCACAF).
Sut yr ydym yn casglu Gwybodaeth Amdanoch Chi:
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi pan fyddwch yn cofrestru gyda ni neu pan fydd meddyg teulu neu asiantaethau partner eraill yn eich atgyfeirio atom. Yn ogystal, byddwn yn casglu gwybodaeth pan fyddwch yn llenwi arolygon neu’n rhoi adborth.
Y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi:
Fel rhan ohonoch chi yn ymgysylltu â’n gwasanaethau, bydd angen i ni gasglu gwybodaeth benodol amdanoch chi. Gallai’r wybodaeth y bydd angen i ni ei chasglu gennych gynnwys Eich Enw; Eich Cyfeiriad; Manylion Cyswllt (e.e., rhif ffôn symudol); Eich Dyddiad Geni; Eich rhif GIG, Manylion eich defnydd o gyffuriau neu alcohol; Manylion unrhyw ddibynyddion neu aelodau teuluol; Manylion unrhyw unigolyn arall a allai fod yn berthnasol. Efallai y byddwn yn casglu Data Personol Sensitif amdanoch chi hefyd, a allai gynnwys manylion eich Hil; cefndir Ethnig; Crefydd; Iechyd; Bywyd rhywiol; Cyfeiriadedd Rhywiol ac ati. Rhaid i chi roi eich caniatâd penodol er mwyn i ni gasglu’r math hwn o ddata wrthych chi.
Sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch chi:
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi er mwyn rhoi’r cymorth a’r gwasanaethau y byddwch yn eu cael gennym ni. Gellir rhannu’r wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch chi gyda thrydydd partïon yr ymddiriedir ynddynt hefyd, yn benodol er mwyn cyflawni gofynion adrodd a/neu archwilio awdurdodau statudol.
Sail Gyfreithlon dros brosesu eich data:
Rhaid bod gennym Sail Gyfreithlon dros brosesu eich data. Mae’r gyfraith am ddiogelu data yn nodi sawl rheswm gwahanol pam y gallwn gasglu a phrosesu eich data personol, gan gynnwys:
1. Cydsyniad – Gallwn gasglu a phrosesu eich data pan fyddwch yn cytuno i ni ddefnyddio eich gwybodaeth yn y fath ffordd. Wrth gasglu eich data personol, byddwn wastad yn nodi’n glir pa ddata sy’n angenrheidiol mewn perthynas â’r gwasanaeth yr ydych yn dymuno ei gael gennym
2. Rhwymedigaethau cytundebol – Caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu er mwyn cyflawni trefniant cytundebol, a allai fod i ddarparu’r gwasanaeth y byddwch yn ei gael gennym ni. Byddwn yn defnyddio manylion eich cyfeiriad hefyd er mwyn anfon llythyrau apwyntiadau atoch.
3. Cydymffurfiaeth gyfreithiol – Pan geir gofynion statudol neu gyfreithiol eraill i rannu eich gwybodaeth, sef pan fod yn rhaid i ni rannu eich gwybodaeth.
4. Buddiant dilys – Mewn sefyllfaoedd penodol, mae gofyn i ni gael eich data er mwyn canlyn ein buddiannau dilys ni mewn ffordd y byddai’n rhesymol disgwyl i ni ei wneud fel rhan o weithredu ein gwasanaethau a darparu’r gwasanaeth gorau i chi yn y ffordd fwyaf ddiogel a phriodol, nad yw’n cael effaith sylweddol ar eich hawliau, eich rhyddid neu’ch buddiannau.
Mae rhai o’r rhesymau hyn dros brosesu eich data personol yn gorgyffwrdd, felly efallai y bydd sawl rheswm a fydd yn cyfiawnhau ein gweithgarwch i brosesu eich gwybodaeth bersonol. Yn yr amgylchiadau hynny pan fyddwch wedi rhoi eich cydsyniad i ni brosesu eich data personol, rydych yn rhydd i ddirymu/tynnu eich cydsyniad yn ôl unrhyw bryd. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol y bydd gennym yr hawl efallai i barhau i brosesu eich gwybodaeth os bydd modd ei gyfiawnhau ar un o’r seiliau cyfreithlon eraill y soniwyd amdanynt uchod.
Pa mor hir y byddwn yn cadw’r wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch: Pryd bynnag y byddwn yn casglu neu’n prosesu eich data personol, byddwn yn ei gadw am ba mor hir ag sy’n angenrheidiol at y dibenion y’i casglwyd. Ar ddiwedd y cyfnod cadw hwnnw, caiff eich data ei ddileu yn llwyr neu bydd camau yn cael eu cymryd i’w wneud yn ddienw, er enghraifft trwy ei gyfuno gyda data arall fel y gellir ei ddefnyddio mewn ffordd anadnabyddadwy at ddibenion dadansoddi ystadegol.
Trosglwyddiadau Rhyngwladol: Dim ond gyda phartneriaid yr ydym yn ymddiried ynddynt y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth, ac ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw sefydliad arall y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Marchnata: Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion marchnata, ac ni fyddwn yn gwerthu nac yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw sefydliad arall at ddibenion marchnata uniongyrchol.
Cwcis Gwefannau a Chyfryngau Cymdeithasol: Ffeiliau testun yw’r rhain a osodir ar eich cyfrifiadur er mwyn casglu gwybodaeth safonol a gofnodir ar y rhyngrwyd a gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr. Defnyddir y wybodaeth hon i olrhain defnydd ymwelwyr o’r wefan a chreu adroddiadau ystadegol am weithgarwch ar y wefan. Gallwch drefnu nad yw’ch porwr yn derbyn cwcis, neu os hoffech gael gwybodaeth bellach, trowch at www.aboutcookies.org neu www.allaboutcookies.org. Efallai y bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill.
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r wefan hon yn unig felly pan fyddwch yn cysylltu â gwefannau eraill, dylech ddarllen eu Hysbysiadau Preifatrwydd nhw
Mynediad i’ch Gwybodaeth a Chywiro: Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch. Os hoffech gael copi o rywfaint o’ch gwybodaeth bersonol neu’ch holl wybodaeth bersonol, anfonwch e-bost neu ysgrifennwch atom i’r cyfeiriad isod. Rydym yn dymuno sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn gywir ac yn cynrychioli’r sefyllfa ddiweddaraf. Efallai y byddwch yn gofyn i ni gywiro neu waredu gwybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi. Dan amgylchiadau arferol, nid ydym yn codi tâl am ddarparu copi i chi o’r wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch.
Er mwyn prosesu cais gennych chi, bydd angen i ni gadarnhau eich manylion, felly a fyddech gystal â nodi eich enw llawn; disgrifiad o’r data yr ydych yn gofyn amdano gan gynnwys amrediad y dyddiadau; copi o ddogfen adnabod gyfredol a dilys sy’n cynnwys llun ohonoch; prawf o’ch cyfeiriad ar ffurf llungopi o fil gan ddarparwr gwasanaeth neu gyfleustodau.
Eich Hawliau
1. Yr hawl i gael eich hysbysu – Mae gennych yr hawl i gael eich hysbysu ynghylch y ffaith y cesglir ac y defnyddir eich data personol, gan gynnwys diben y cam o brosesu data personol, cyfnodau cadw ar gyfer y data hwnnw a phwy y rhennir y data gyda nhw. Caiff y wybodaeth hon ei chynnwys yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn.
2. Hawl mynediad – Mae gennych yr hawl i droi at eich data personol a’ch gwybodaeth ategol, a fydd yn caniatáu i chi gadarnhau cyfreithlondeb y prosesu.
3. Yr hawl i gywiro – Mae gennych yr hawl i gywiro data personol anghywir, neu ei gwblhau os bydd yn anghyflawn. Gellir gwneud ceisiadau cywiro ar lafar neu yn ysgrifenedig, ac mae’n rhaid i ni ymateb i chi cyn pen un mis calendr. Sylwer bod amgylchiadau penodol lle y gallwn wrthod cais i gywiro.
4. Yr hawl i ddileu – Gelwir hwn ‘Yr Hawl i gael eich Anghofio’. Gellir gwneud ceisiadau dileu ar lafar neu yn ysgrifenedig ac mae’n rhaid i ni ymateb i chi cyn pen un mis calendr. Sylwer nad yw’r hawl hon yn hawl absoliwt ac mai dim ond mewn amgylchiadau penodol y bydd yn berthnasol.
5. Yr hawl i gyfyngu gweithgarwch prosesu – Mae gennych yr hawl i ofyn bod data personol yn cael ei gyfyngu neu ei atal, lle y caniateir i ni storio eich data personol, ond nid ei ddefnyddio. Gellir gwneud ceisiadau cyfyngu ar lafar neu yn ysgrifenedig ac mae’n rhaid i ni ymateb i chi cyn pen un mis calendr. Sylwer nad yw’r hawl hon yn hawl absoliwt ac mai dim ond mewn amgylchiadau penodol y bydd yn berthnasol.
6. Yr hawl i gludadwyedd data – Mae’r hawl hon yn caniatáu i chi sicrhau ac ailddefnyddio eich data personol at eich dibenion eich hun ar draws gwahanol wasanaethau. Darparir y wybodaeth hon yn rhad ac am ddim ac mewn ffurf strwythuredig ac y mae modd i beiriant ei darllen, ac y mae ei defnydd yn gyffredin.
7. Yr hawl i wrthwynebu – Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i ni yn prosesu eich data personol, ac mae’n rhaid i hyn fod yn seiliedig ar resymau sy’n ymwneud â’ch sefyllfa. Yna, rhaid i ni stopio prosesu eich data personol oni bai y gallwn ddangos sail gyfreithlon nerthol dros y gwaith prosesu, sy’n drech na’ch buddiannau, eich hawliau a’ch rhyddid chi.
8. Hawliau mewn perthynas â phroffilio a gwneud penderfyniadau awtomatig – mae gwneud penderfyniadau unigol Awtomatig yn benderfyniad a wneud mewn ffordd awtomatig, heb unrhyw gyswllt gan bobl. Nid ydym yn cynnal unrhyw weithgarwch penderfynu a/neu broffilio awtomatig.
Newidiadau i’n Hysbysiad Preifatrwydd: Bydd angen i ni adolygu a diweddaru’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd. Byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau arwyddocaol a byddwn yn gosod unrhyw ddiweddariadau ar ein gwefan.
Sut i gysylltu â ni: Mawr obeithiwn y bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, ond os na, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am ein Polisi Preifatrwydd, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau, cysylltwch â ni: trwy anfon e-bost at: info@cavdas.com neu gallwch ysgrifennu atom: Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a’r Fro (GCACAF) 7 Heol Sant Andreas, Caerdydd. CF10 3BE