Cymorth arbenigol i bobl dros 50 oed
Cymorth arbenigol i bobl dros 50 oed
Wrth i ni fynd yn hŷn, mae’n fwy tebygol y byddwn yn cymryd meddyginiaethau ar bresgripsiwn, ac yn rheoli cyflwr iechyd parhaus o bosibl, ac yn anffodus, yn profi unigrwydd.
Mae defnyddio cyffuriau a/neu alcohol ar yr un pryd yn creu heriau penodol, a dyma pam bod gennym wasanaeth penodol i gynorthwyo pobl dros 50 oed.
Gweler y wybodaeth yn y gwymplen isod neu ffoniwch 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com a holwch am ein cymorth ar gyfer pobl 50 oed a throsodd.
Mae gan y rhai dros 50 oed sy’n defnyddio sylweddau risg uwch o ddioddef cyflyrau iechyd megis clefyd yr afu, clefyd y galon a chanser.
Os ydynt wedi bod yn defnyddio am gyfnod hir, maent mewn perygl o ddioddef niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Gallwn helpu gyda’r gwaith – anodd weithiau – o reoli’r cyflyrau hyn a hefyd atgyfeirio teuluoedd a’r rhai sy’n gofalu am oedolion hŷn at gymorth ychwanegol.
Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.
Mae oedolion hŷn yn llawer fwy tebygol o gymryd meddyginiaeth rheolaidd ar bresgripsiwn hefyd er mwyn rheoli cyflyrau iechyd, a gall eu defnydd o sylweddau amharu ar eu heffeithiolrwydd.
Gallwn helpu gyda chyngor i leihau eu risg o ddioddef niwed a gallwn gysylltu gyda meddygon teulu.
Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.
Mae ynysigrwydd cymdeithasol yn fwy cyffredin ymhlith oedolion hŷn a gall arwain at ddefnydd uwch o sylweddau.
Gallwn helpu’r rhai sy’n teimlo’n unig ac yn isel i ymwneud â’u diddordebau yn eu cymunedau lleol er mwyn gwella eu lles.
Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.
HOW WE CAN HELP
We support people to minimise the risks they take when using drugs or alcohol; enable those who want to move or continue to stay away from their use; and educate around drug and alcohol use. We have teams of professionals with particular specialisms and peers whose experience of drug and alcohol use makes them very well-placed to provide support.
For support please contact us direct or make an appointment through our booking system