Cymorth gyda’ch defnydd chi o alcohol neu gyffuriau

Mae ein holl gymorth wedi’i deilwra ar eich cyfer chi a’r hyn y mae ei angen arnoch. Byddwn yn gweithio gyda chi i deilwra cymorth un-i-un a/neu gymorth grŵp neu gwnsela, fel sy’n briodol – sy’n gallu bod wyneb-yn-wyneb, ar-lein neu dros y ffôn. Y cam pwysicaf yw cysylltu, yna byddwn yn eich tywys o’r fan honno.

Cymorth i deuluoedd, ffrindiau a gofalwyr

Rydym yn helpu unrhyw un y mae defnydd rhywun arall o alcohol neu gyffuriau yn effeithio arnynt. Gellir cynnal sesiynau un-i-un mewn unrhyw rai o’n lleoliadau, yn eich cartref neu yn y gymuned, a gallwch gyfarfod eraill sydd mewn sefyllfa debyg yn ystod ein boreau coffi anffurfiol.

Cymorth adfer

Rydym yn darparu cymorth proffesiynol a chan gymheiriaid ar gyfer pob cam ar eich taith adfer. Felly, os ydych yn dymuno dechrau gwneud newidiadau, neu os ydych chi eisoes ar eich taith adfer ac yn dymuno cael cymorth i gynnal y newidiadau yr ydych chi wedi’u gwneud, gallwn helpu.

Cymorth arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc

Rydym yn gweithio gydag unrhyw berson ifanc sy’n cael anhawster gyda’u defnydd nhw o gyffuriau neu alcohol neu gyda defnydd rhywun arall o gyffuriau neu alcohol. Gall y rhai dan 18 oed gysylltu â ni yn uniongyrchol; os ydych chi’n gofidio am berson ifanc, gallwch gysylltu â ni ar ôl sicrhau eu cydsyniad. Rydym yn cynnig gweithdai am ddim i ysgolion, colegau a lleoliadau cymunedol eraill hefyd.

Cymorth arbenigol i’r rhai dros 50 oed

Mae oedolion hŷn sy’n defnyddio cyffuriau ac alcohol yn wynebu rhai risgiau iechyd uwch, mae ganddynt anghenion rheoli meddyginiaeth a gofynion cymorth. Caiff ein gwasanaethau arbenigol eu teilwra er mwyn helpu i fodloni’r rheiny.

Lleihau eich risgiau

We can help you minimise the risks associated with drug and alcohol use with sterile needles and syringes, naloxone kits and other support and information.

Gwasanaethau cymunedol ac allgymorth

Mae ein timau proffesiynol a chymheiriaid arbenigol yn gweithio gyda rhai o’r bobl mwyaf agored i niwed sy’n defnyddio cyffuriau ac alcohol allan yn y gymuned, gyda gwasanaethau cymorth lleol eraill fel arfer.

Gwasanaethau addysg a hyfforddiant

Mae ein hamrywiaeth eang o arbenigwyr yn ymwneud â’r holl wasanaethau cyffuriau ac alcohol. Yn ogystal â sicrhau bod ein timau yn hyfforddedig iawn, rydym yn darparu ystod eang o hyfforddiant i sefydliadau a gweithwyr proffesiynol ac yn cynnal rhaglenni ymwybyddiaeth i bobl ifanc mewn lleoliadau addysgol a chymunedol.

Cymryd rhan

Os ydych chi wedi defnyddio ein gwasanaethau ac rydych yn dymuno dylanwadu ar wasanaethau yn y dyfodol, hoffem glywed gennych. Os oes gennych chi brofiad o broblemau sy’n ymwneud â defnyddio cyffuriau ac alcohol ac mae gennych chi ddiddordeb mewn cynorthwyo eraill, efallai yr hoffech ystyried ymuno â ni fel gwirfoddolwr cymheiriaid

banner image

Cysylltwch a ni

Os hoffech gael mynediad i CAVDAS, gallwch wneud hynny mewn sawl ffordd. Gallwch wneud apwyntiad ar-lein neu gallwch ffonio ein gweithwyr ymroddedig ar 0300 3007000 i drafod eich anghenion.