Cymorth wedi’i deilwra
Cymorth wedi’i deilwra
Mae ein holl wasanaethau yn canolbwyntio ar eich gofynion unigryw chi, ac yn cael eu cynllunio mewn partneriaeth â chi. Byddwn yn gweithio gyda chi [link through to how we work with you page] i ddeall eich heriau a’ch nodau a datblygu eich cynllun unigol y byddwn yn ei adolygu’n rheolaidd gyda chi.
Bydd cymorth ar gael i chi gan bobl sydd wedi cael profiadau tebyg a byddwn hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddod ynghyd yn gymdeithasol i feithrin perthnasoedd sy’n cynorthwyo’r newidiadau yr ydych yn dymuno eu gwneud.
Pan fyddwch yn barod, gallwn eich cyflwyno i gyfleoedd gwirfoddoli hefyd, a chynnig cyngor a chymorth parhaus, y byddant oll wedi’u teilwra i’ch gofynion.
Gweler y wybodaeth yn y gwymplen isod neu ffoniwch 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com i holi am ein gwasanaethau adfer.
Rydym yn cynnig cymorth gan gymheiriaid a thriniaeth un-i-un. Gall hwnnw fod wyneb-yn -wyneb yn un o’n lleoliadau neu dros y ffôn, mewn neges destun, neges e-bost neu alwad fideo – beth bynnag sy’n gweithio i chi.
Mae ein tîm cymheiriaid mewn sefyllfa dda i’ch helpu i wneud newidiadau, gan ddatblygu a chynnal eich adferiad. Gallant eich helpu i ymgysylltu â thriniaeth yn ôl y gofyn hefyd.
Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.
Rydym yn cynnig amrediad o raglenni cymorth grŵp strwythuredig i bobl yn ystod pob cam o’u hadferiad.
Mae’r rhain yn cynnwys gweithgarwch atal ailgychwyn, cwrs cyfranogol llawn ac wedi’i arwain gan gymheiriaid a gynlluniwyd i’ch helpu i gynnal eich adferiad, beth bynnag mae hynny yn ei olygu i chi.
Rydym yn cynnal rhaglen grŵp ymddygiadol gwybyddol hefyd ar gyfer y rhai sydd wedi ymwrthod yn ddiweddar er mwyn cynorthwyo eu hadferiad parhaus, ac mae hon yn ddelfrydol os ydych chi’n paratoi i symud ymlaen o ddarpariaeth triniaeth ffurfiol.
Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.
Mae hwn yn llai strwythuredig ac yn fwy cymdeithasol, a gallwch alw heibio unrhyw bryd i’n hyb mynediad agored i gael cymorth a chyfarfod eraill yn ein cymuned adfer.
Mae’n lle cyfeillgar a chyfrinachol lle y gallwch siarad am yr hyn sydd ar eich meddwl gydag eraill, gan gynnwys grwpiau cymorth cymheiriaid. A hefyd, mae gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd ac eang ar gael ar-lein a wyneb yn wyneb.
Am ragor o wybodaeth neu galwch heibio ar unrhyw ddydd Iau rhwng (AMSERAU FAN HYN) yn Eglwys Sant Ioan, Heol Sant Ioan, CAERDYDD CF10 1GL.
How we can help
We support people to minimise the risks they take when using drugs or alcohol; enable those who want to move or continue to stay away from their use; and educate around drug and alcohol use. We have teams of professionals with particular specialisms and peers whose experience of drug and alcohol use makes them very well-placed to provide support.
For support please contact us direct or make an appointment through our booking system