How we support children and young people

How we support children and young people

Gall pobl ifanc dan 18 oed gysylltu i gael cymorth yn uniongyrchol neu gallwch gysylltu â ni ar eu rhan ar ôl sicrhau eu caniatâd.

Rydym hefyd yn darparu cymorth arbenigol i bobl ifanc sy’n ddigartef neu sydd yn y system cyfiawnder troseddol ac yn gweithio gydag ysgolion, colegau a chymunedau i ddarparu gweithdai codi ymwybyddiaeth ac addysgu ynghylch defnyddio sylweddau.

Gweler y wybodaeth yn y gwymplen isod neu ffoniwch 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com a holwch am ein cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc.

Arweinir ein gwaith gyda phobl ifanc gan yr unigolyn a gallwn weld lle y maent yn teimlo’n fwyaf cyffyrddus – gartref, yn yr ysgol, mewn clwb ieuenctid neu unrhyw le yn y gymuned.

Gallai hyn fod ar ffurf darparu ychydig gymorth yn y tymor byr, gydag un i dair sesiwn un-i-un sy’n ymwneud â lleihau niwed, cyngor ac addysg, a phan fo hynny’n briodol, atgyfeirio at wasanaethau eraill.

Gallwn gynorthwyo mewn ffordd fwy strwythuredig hefyd, gan ddarparu triniaeth dros gyfnod hwy, lle y byddai gan y person ifanc gynllun gofal yn cynnwys nodau wedi’u gosod ganddynt i weithio tuag atynt gyda chymorth.

Rydym yn cynorthwyo pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed hefyd, er mwyn eu tywys ymlaen i’n gwasanaethau i oedolion neu er mwyn cwblhau’r gwaith neu’r nodau a osodwyd ganddynt cyn troi’n 18 oed.

Rydym yn helpu pobl ifanc sy’n ddigartref neu sydd yn y system cyfiawnder ieuenctid neu sydd mewn perygl o gael cyswllt â’r system honno.

Mae gennym dimau wedi’u lleoli gyda gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid Caerdydd a’r Fro ac yn y tîm Digartrefedd Aml-ddisgyblaethol yng Nghaerdydd, sy’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n ddigartref neu sydd mewn llety dros dro.

Mae’r gweithwyr hyn yn cynnig cymorth a gwasanaethau galw heibio i’r holl hostelau yn ardal Caerdydd.

Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.

Yn ogystal, mae ein tîm arbenigol yn darparu gweithdai gyda grwpiau o bobl ifanc mewn ysgolion a cholegau ac mewn lleoliadau ieuenctid cymunedol eraill.

Fe’u darparir i gyd yn rhad ac am ddim ac wedi’u teilwra ar gyfer grwpiau mawr, hyd at grwpiau blwyddyn cyfan, neu grwpiau llai a nodir, ac mae modd eu cyflwyno y tu allan i oriau swyddfa yn ôl y gofyn.

Rydym yn darparu sesiynau ymwybyddiaeth ac ymgyrchoedd addysg hefyd, ac yn ymuno â digwyddiadau cymunedol fel rhan o hyn.

Ffoniwch ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com am ragor o wybodaeth.

banner image

How we can help

We support people to minimise the risks they take when using drugs or alcohol; enable those who want to move or continue to stay away from their use; and educate around drug and alcohol use. We work with any young person struggling with their or someone else's drug or alcohol use.

We have teams of professionals with particular specialisms and peers whose experience of drug and alcohol use makes them very well-placed to provide support.

For support please contact us direct or make an appointment through our booking system