Gweithiwr Adferiad Cyfoedion ac Ôl-ofal
Gweithiwr Adferiad Cyfoedion ac Ôl-ofal
Mae’r rôl hon yn rhan o Dîm Adferiad Cyfoedion GCACAF ac yn darparu cefnogaeth adferiad ac ôl-ofal dan arweiniad cyfoedion i bobl sy’n ceisio gwneud a chynnal newidiadau i’w defnydd o alcohol a/neu gyffuriau. Gan weithio fel rhan o dîm o weithwyr adferiad ac ôl-ofal, mae’r swydd yn darparu cefnogaeth cyfoedion 1:1, gwaith grŵp, a’r rhaglen adsefydlu cymunedol, ac yn cyfrannu at redeg y ganolfan adferiad mynediad agored, sydd ar gael saith diwrnod yr wythnos. Cynigir cefnogaeth yn bersonol, ar-lein, a thrwy ffôn neu neges destun, gan helpu pobl ym mhob cam o newid i adeiladu cyfalaf adferiad, datblygu cysylltiadau cymunedol, a symud ymlaen o driniaeth ffurfiol mewn ffordd gynlluniedig a chefnogol. Mae’r rôl wedi’i seilio ar fodel cefnogaeth cyfoedion C.H.I.M.E. ac nid yw’n swydd gwnsela na thriniaeth, gan ganolbwyntio yn hytrach ar brofiad byw, cefnogaeth ddi-farn, ac ymgysylltiad hirdymor â’r gymuned adferiad ehangach.
Dyddiad cau: 13/02/2026