Swyddi Gwag Presennol
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw swyddi gwag ar gael. Fodd bynnag, rydym yn eich gwahodd i lenwi'r ffurflen ymholiad gwirfoddoli i gofrestru eich diddordeb mewn cyfleoedd yn y dyfodol.

Eich Profiad Gwirfoddolwr gyda GCACAF
O’r diwrnod cyntaf, byddwch yn cael eich croesawu i dîm GCACAF a chewch gyfnod sefydlu trylwyr. Byddwch yn dysgu am ein gwerthoedd, y gefnogaeth a ddarparwn, a’ch rôl fel gwirfoddolwr.
Bydd gennych fynediad at ein rhaglen datblygu gweithlu lawn, gan gynnwys hyfforddiant ar ddiogelu, ffiniau, lleihau niwed, sgiliau cyfathrebu, gofal sy’n seiliedig ar drawma a llawer mwy.
Mae pob gwirfoddolwr yn cael ei baru â gweithiwr sy’n cynnig cefnogaeth barhaus, a lle i fyfyrio ar eich profiadau.
Credwn na ddylai gwirfoddoli gostio ffortiwn i chi. Bydd costau teithio ac unrhyw dreuliau y cytunwyd arnynt yn cael eu had-dalu yn unol â’n polisi gwirfoddoli.
Mae gwirfoddoli gyda GCACAF yn cynnig profiad go iawn mewn gwasanaeth cymorth defnyddio sylweddau ac alcohol, lleihau niwed a chymorth cymunedol. Byddwch yn meithrin hyder a sgiliau trosglwyddadwy a all gefnogi eich taith yn bersonol ac yn broffesiynol.
Mae ein gwirfoddolwyr wrth wraidd yr hyn a wnawn. Drwy ymuno â ni, byddwch yn dod yn rhan o gymuned dosturiol a chefnogol sy’n gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl.