{"id":511,"date":"2024-02-08T10:49:47","date_gmt":"2024-02-08T10:49:47","guid":{"rendered":"https:\/\/uat.cavdas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/?page_id=511"},"modified":"2024-02-23T01:39:57","modified_gmt":"2024-02-23T01:39:57","slug":"privacy-policy","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cavdas.com\/cymraeg\/privacy-policy\/","title":{"rendered":"Hysbysiad preifatrwydd"},"content":{"rendered":"\r\n<p><strong>HYSBYSIAD PREIFATRWYDD <br \/><\/strong> <br \/>Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd ac rydym yn addo casglu, prosesu a rhannu eich data mewn ffordd ddiogel.  Byddwn yn diogelu cyfrinachedd, cywirdeb ac argaeledd y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi.  Mae\u2019r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn dweud wrthych sut yr ydym yn gwneud hyn a beth yw eich hawliau.  Caiff unrhyw ddata personol a brosesir yn unol \u00e2\u2019n Hysbysiad Preifatrwydd ei reoli gennym ni, Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a\u2019r Fro (GCACAF), fel y Rheolydd Data.\r\n\r\nCyflwyniad\r\nMae gan bawb hawliau mewn perthynas \u00e2\u2019r ffordd y caiff eu gwybodaeth bersonol ei thrin.  Yn ystod ein gweithgareddau, byddwn yn casglu, yn storio ac yn prosesu gwybodaeth bersonol am unigolion ac rydym yn cydnabod y bydd trin y data hwn mewn ffordd gywir a chyfreithlon yn cynnal hyder yn y sefydliad.\r\n\r\nMae\u2019r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn rhoi esboniad manwl o\u2019r mathau o ddata personol y byddwn yn eu casglu amdanoch efallai pan fyddwch yn rhyngweithio gyda ni.  Mae\u2019n esbonio hefyd sut y byddwn yn storio ac yn trin y data hwnnw ac yn ei gadw yn ddiogel.\r\n\r\nMae\u2019r Hysbysiad Preifatrwydd hwn hefyd yn nodi\u2019r sylfaen ar gyfer ein gwaith o brosesu unrhyw wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu gennych chi neu y byddwch yn ei darparu i ni.  Darllenwch y canlynol yn ofalus er mwyn deall ein safbwyntiau a\u2019n harferion ynghylch eich gwybodaeth bersonol a sut y byddwn yn ei thrin.\r\n\r\nEr mwyn sicrhau symlrwydd trwy gydol yr hysbysiad hwn, mae \u2018ni\u2019 yn golygu Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a\u2019r Fro (GCACAF).\r\n\r\nSut yr ydym yn casglu Gwybodaeth Amdanoch Chi:\r\n\r\nRydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi pan fyddwch yn cofrestru gyda ni neu pan fydd meddyg teulu neu asiantaethau partner eraill yn eich atgyfeirio atom.  Yn ogystal, byddwn yn casglu gwybodaeth pan fyddwch yn llenwi arolygon neu\u2019n rhoi adborth.\r\n\r\nY wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi: \r\n\r\nFel rhan ohonoch chi yn ymgysylltu \u00e2\u2019n gwasanaethau, bydd angen i ni gasglu gwybodaeth benodol amdanoch chi.  Gallai\u2019r wybodaeth y bydd angen i ni ei chasglu gennych gynnwys Eich Enw;  Eich Cyfeiriad;  Manylion Cyswllt (e.e., rhif ff\u00f4n symudol);  Eich Dyddiad Geni;  Eich rhif GIG, Manylion eich defnydd o gyffuriau neu alcohol;  Manylion unrhyw ddibynyddion neu aelodau teuluol;  Manylion unrhyw unigolyn arall a allai fod yn berthnasol.  Efallai y byddwn yn casglu Data Personol Sensitif amdanoch chi hefyd, a allai gynnwys manylion eich Hil;  cefndir Ethnig;  Crefydd;  Iechyd;  Bywyd rhywiol;  Cyfeiriadedd Rhywiol ac ati.  Rhaid i chi roi eich caniat\u00e2d penodol er mwyn i ni gasglu\u2019r math hwn o ddata wrthych chi.\r\n\r\nSut y byddwn yn defnyddio\u2019r wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch chi:\r\n\r\nRydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi er mwyn rhoi\u2019r cymorth a\u2019r gwasanaethau y byddwch yn eu cael gennym ni.  Gellir rhannu\u2019r wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch chi gyda thrydydd part\u00efon yr ymddiriedir ynddynt hefyd, yn benodol er mwyn cyflawni gofynion adrodd a\/neu archwilio awdurdodau statudol.\r\n\r\nSail Gyfreithlon dros brosesu eich data:\r\n\r\nRhaid bod gennym Sail Gyfreithlon dros brosesu eich data.  Mae\u2019r gyfraith am ddiogelu data yn nodi sawl rheswm gwahanol pam y gallwn gasglu a phrosesu eich data personol, gan gynnwys:\r\n\r\n\r\n1. Cydsyniad \u2013 Gallwn gasglu a phrosesu eich data pan fyddwch yn cytuno i ni ddefnyddio eich gwybodaeth yn y fath ffordd.  Wrth gasglu eich data personol, byddwn wastad yn nodi\u2019n glir pa ddata sy\u2019n angenrheidiol mewn perthynas \u00e2\u2019r gwasanaeth yr ydych yn dymuno ei gael gennym\r\n\r\n\r\n2. Rhwymedigaethau cytundebol \u2013 Caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu er mwyn cyflawni trefniant cytundebol, a allai fod i ddarparu\u2019r gwasanaeth y byddwch yn ei gael gennym ni.  Byddwn yn defnyddio manylion eich cyfeiriad hefyd er mwyn anfon llythyrau apwyntiadau atoch.\r\n\r\n\r\n3. Cydymffurfiaeth gyfreithiol \u2013 Pan geir gofynion statudol neu gyfreithiol eraill i rannu eich gwybodaeth, sef pan fod yn rhaid i ni rannu eich gwybodaeth.\r\n\r\n\r\n4. Buddiant dilys \u2013 Mewn sefyllfaoedd penodol, mae gofyn i ni gael eich data er mwyn canlyn ein buddiannau dilys ni mewn ffordd y byddai\u2019n rhesymol disgwyl i ni ei wneud fel rhan o weithredu ein gwasanaethau a darparu\u2019r gwasanaeth gorau i chi yn y ffordd fwyaf ddiogel a phriodol, nad yw\u2019n cael effaith sylweddol ar eich hawliau, eich rhyddid neu\u2019ch buddiannau.\r\nMae rhai o\u2019r rhesymau hyn dros brosesu eich data personol yn gorgyffwrdd, felly efallai y bydd sawl rheswm a fydd yn cyfiawnhau ein gweithgarwch i brosesu eich gwybodaeth bersonol.  Yn yr amgylchiadau hynny pan fyddwch wedi rhoi eich cydsyniad i ni brosesu eich data personol, rydych yn rhydd i ddirymu\/tynnu eich cydsyniad yn \u00f4l unrhyw bryd.  Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol y bydd gennym yr hawl efallai i barhau i brosesu eich gwybodaeth os bydd modd ei gyfiawnhau ar un o\u2019r seiliau cyfreithlon eraill y soniwyd amdanynt uchod.\r\n\r\n\r\nPa mor hir y byddwn yn cadw\u2019r wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch:  Pryd bynnag y byddwn yn casglu neu\u2019n prosesu eich data personol, byddwn yn ei gadw am ba mor hir ag sy\u2019n angenrheidiol at y dibenion y\u2019i casglwyd.  Ar ddiwedd y cyfnod cadw hwnnw, caiff eich data ei ddileu yn llwyr neu bydd camau yn cael eu cymryd i\u2019w wneud yn ddienw, er enghraifft trwy ei gyfuno gyda data arall fel y gellir ei ddefnyddio mewn ffordd anadnabyddadwy at ddibenion dadansoddi ystadegol.\r\n\r\n\r\nTrosglwyddiadau Rhyngwladol:  Dim ond gyda phartneriaid yr ydym yn ymddiried ynddynt y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth, ac ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw sefydliad arall y tu allan i\u2019r Ardal Economaidd Ewropeaidd.\r\n\r\n\r\nMarchnata:  Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion marchnata, ac ni fyddwn yn gwerthu nac yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw sefydliad arall at ddibenion marchnata uniongyrchol.\r\n\r\n\r\nCwcis Gwefannau a Chyfryngau Cymdeithasol:  Ffeiliau testun yw\u2019r rhain a osodir ar eich cyfrifiadur er mwyn casglu gwybodaeth safonol a gofnodir ar y rhyngrwyd a gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr.  Defnyddir y wybodaeth hon i olrhain defnydd ymwelwyr o\u2019r wefan a chreu adroddiadau ystadegol am weithgarwch ar y wefan.  Gallwch drefnu nad yw\u2019ch porwr yn derbyn cwcis, neu os hoffech gael gwybodaeth bellach, trowch at www.aboutcookies.org neu www.allaboutcookies.org.  Efallai y bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill.  \r\n\r\nMae\u2019r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn berthnasol i\u2019r wefan hon yn unig felly pan fyddwch yn cysylltu \u00e2 gwefannau eraill, dylech ddarllen eu Hysbysiadau Preifatrwydd nhw\r\n\r\n\r\nMynediad i\u2019ch Gwybodaeth a Chywiro:  Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o\u2019r wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch.  Os hoffech gael copi o rywfaint o\u2019ch gwybodaeth bersonol neu\u2019ch holl wybodaeth bersonol, anfonwch e-bost neu ysgrifennwch atom i\u2019r cyfeiriad isod.  Rydym yn dymuno sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn gywir ac yn cynrychioli\u2019r sefyllfa ddiweddaraf.  Efallai y byddwch yn gofyn i ni gywiro neu waredu gwybodaeth sy\u2019n anghywir yn eich barn chi.  Dan amgylchiadau arferol, nid ydym yn codi t\u00e2l am ddarparu copi i chi o\u2019r wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch.\r\n\r\n\r\nEr mwyn prosesu cais gennych chi, bydd angen i ni gadarnhau eich manylion, felly a fyddech gystal \u00e2 nodi eich enw llawn;  disgrifiad o\u2019r data yr ydych yn gofyn amdano gan gynnwys amrediad y dyddiadau;  copi o ddogfen adnabod gyfredol a dilys sy\u2019n cynnwys llun ohonoch;  prawf o\u2019ch cyfeiriad ar ffurf llungopi o fil gan ddarparwr gwasanaeth neu gyfleustodau.\r\nEich Hawliau \r\n\r\n\r\n1. Yr hawl i gael eich hysbysu \u2013 Mae gennych yr hawl i gael eich hysbysu ynghylch y ffaith y cesglir ac y defnyddir eich data personol, gan gynnwys diben y cam o brosesu data personol, cyfnodau cadw ar gyfer y data hwnnw a phwy y rhennir y data gyda nhw.  Caiff y wybodaeth hon ei chynnwys yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn.\r\n\r\n\r\n2. Hawl mynediad \u2013 Mae gennych yr hawl i droi at eich data personol a\u2019ch gwybodaeth ategol, a fydd yn caniat\u00e1u i chi gadarnhau cyfreithlondeb y prosesu.\r\n\r\n\r\n3. Yr hawl i gywiro \u2013 Mae gennych yr hawl i gywiro data personol anghywir, neu ei gwblhau os bydd yn anghyflawn.  Gellir gwneud ceisiadau cywiro ar lafar neu yn ysgrifenedig, ac mae\u2019n rhaid i ni ymateb i chi cyn pen un mis calendr.  Sylwer bod amgylchiadau penodol lle y gallwn wrthod cais i gywiro.\r\n\r\n\r\n4. Yr hawl i ddileu \u2013 Gelwir hwn \u2018Yr Hawl i gael eich Anghofio\u2019.  Gellir gwneud ceisiadau dileu ar lafar neu yn ysgrifenedig ac mae\u2019n rhaid i ni ymateb i chi cyn pen un mis calendr.  Sylwer nad yw\u2019r hawl hon yn hawl absoliwt ac mai dim ond mewn amgylchiadau penodol y bydd yn berthnasol.\r\n\r\n\r\n5. Yr hawl i gyfyngu gweithgarwch prosesu \u2013 Mae gennych yr hawl i ofyn bod data personol yn cael ei gyfyngu neu ei atal, lle y caniateir i ni storio eich data personol, ond nid ei ddefnyddio.  Gellir gwneud ceisiadau cyfyngu ar lafar neu yn ysgrifenedig ac mae\u2019n rhaid i ni ymateb i chi cyn pen un mis calendr.  Sylwer nad yw\u2019r hawl hon yn hawl absoliwt ac mai dim ond mewn amgylchiadau penodol y bydd yn berthnasol. \r\n\r\n\r\n6. Yr hawl i gludadwyedd data \u2013 Mae\u2019r hawl hon yn caniat\u00e1u i chi sicrhau ac ailddefnyddio eich data personol at eich dibenion eich hun ar draws gwahanol wasanaethau.  Darparir y wybodaeth hon yn rhad ac am ddim ac mewn ffurf strwythuredig ac y mae modd i beiriant ei darllen, ac y mae ei defnydd yn gyffredin.\r\n\r\n\r\n7. Yr hawl i wrthwynebu \u2013 Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i ni yn prosesu eich data personol, ac mae\u2019n rhaid i hyn fod yn seiliedig ar resymau sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019ch sefyllfa.  Yna, rhaid i ni stopio prosesu eich data personol oni bai y gallwn ddangos sail gyfreithlon nerthol dros y gwaith prosesu, sy\u2019n drech na\u2019ch buddiannau, eich hawliau a\u2019ch rhyddid chi.\r\n\r\n\r\n8. Hawliau mewn perthynas \u00e2 phroffilio a gwneud penderfyniadau awtomatig \u2013 mae gwneud penderfyniadau unigol Awtomatig yn benderfyniad a wneud mewn ffordd awtomatig, heb unrhyw gyswllt gan bobl.  Nid ydym yn cynnal unrhyw weithgarwch penderfynu a\/neu broffilio awtomatig.\r\n\r\nNewidiadau i\u2019n Hysbysiad Preifatrwydd:  Bydd angen i ni adolygu a diweddaru\u2019r Hysbysiad Preifatrwydd hwn o bryd i\u2019w gilydd.  Byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau arwyddocaol a byddwn yn gosod unrhyw ddiweddariadau ar ein gwefan.\r\n\r\n\r\nSut i gysylltu \u00e2 ni:  Mawr obeithiwn y bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, ond os na, mae croeso i chi gysylltu \u00e2 ni. \r\n\r\n Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am ein Polisi Preifatrwydd, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau, cysylltwch \u00e2 ni:  trwy anfon e-bost at:  info@cavdas.com   neu gallwch ysgrifennu atom:  Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a\u2019r Fro (GCACAF) 7 Heol Sant Andreas, Caerdydd.  CF10 3BE<\/p>\r\n\r\n\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>HYSBYSIAD PREIFATRWYDD Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd ac rydym yn addo casglu, prosesu a rhannu eich data mewn ffordd ddiogel. Byddwn yn diogelu cyfrinachedd, cywirdeb ac argaeledd y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi. Mae\u2019r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn dweud wrthych sut yr ydym yn gwneud hyn a beth [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"class_list":["post-511","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cavdas.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/511","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cavdas.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cavdas.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cavdas.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cavdas.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=511"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.cavdas.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/511\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":647,"href":"https:\/\/www.cavdas.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/511\/revisions\/647"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cavdas.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=511"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}